About me

Ganwyd: 20 Hydref 1982, Llanelwy | Magwyd: Abergele

Golffwraig ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol

Trifia: Ymysg diddordebau eraill Becky mae gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilmiau - a chwaraeon! Daeth Rebecca Dawn Brewerton yn chwaraewr golff proffesiynol ar 17 Tachwedd 2003, fis ar ™l ei phen-blwydd yn 21 oed.

Cyn hynny, roedd wedi cael gyrfa amatur lwyddiannus: roedd yn Bencampwraig Merched Iau Cymru 1997 ac 1988, yn Bencampwraig Merched Cymru 1999 a 2001, cynrychiolodd Wledydd Prydain ac Iwerddon yng Nghwpan Curtis 2000, Tlws Vagliano 2001 a 2003 ac ym Mhencampwriaeth T”m Golff Amatur y Byd yn 2002.

Yna, ar ™l dod yn 13eg yn Ysgol Gymhwyso Cylchdaith Merched Ewrop yn 2003, dechreuodd ar ei thymor cyntaf fel chwaraewr proffesiynol yn 2004.

Yn y tymor proffesiynol cyntaf hwnnw, daeth Brewerton yn ail yng nghystadleuaeth Chwaraewr Newydd y Flwyddyn yng Nghwpan Ryder Cymru.

Yn 2005, tra'n cynrychioli Cymru ar y cyd ‰ Becky Morgan o'r Fenni yng Nghwpan Golff Merched y Byd yn Ne Affrica cyrhaeddodd y chweched safle.

Llwyddodd y ddwy i wella eu perfformiad yn 2006 a chipio'r trydydd safle y tu ™l i Sweden a'r Alban. Daethant yn wythfed ym mhencampwriaeth 2007.

Dechreuodd chwarae golff yn ei harddegau dan ddylanwad ei thad, Steve, sydd wedi bod yn gadi iddi ers y dechrau. Gwnaeth hynny am y tro olaf yng Nghwpan Golff Merched y Byd 2007, cyn trosglwyddo'r awenau i Bosco Lynch.

Roedd yn cymryd rhan am y pedwerydd tymor fel chwaraewr proffesiynol yng Nghylchdaith Merched Ewrop yn 2007.